Morris Evans

Click for full size image


         Gair gan yr Is-gadeirydd.

        Fy mhleser yw ategu'r Cadeirydd drwy eich
croesawu i Ymrysonfa Genedlaethol 2008 yn Llyn,
penrhyn sy'n ymestyn am oddeutu 20 milltir allan
i Fôr Iwerddon, i'r gorllewin o dref Pwllheli. Gan
bod y môr yn holl bresennol, mae ei ddylanwad ar
ein ffordd o fyw yn hen, hen hanes.
       Mae'r môr yn dylanwadu'n fawr ar ein tywydd
yn ogystal. Mae yma olygfeydd i fynd a'ch gwynt,
ac ar dywydd clir, gellir gweld panorama eang
arfordir gorllewinol Cymru o Dy Ddewi yn Sir
Benfro hyd at Gaergybi yn Môn o ambell lecyn
yma. Gwelir cip ar arfordir Iwerddon hefyd, ac yn ôl traddodiadau'r hen genedlaethau, pe gwelid y fan honno yn y gaeaf roedd hynny'n darogan stormydd i ddod!
       Sicrhawyd safle ac iddi hanes unigryw fel man i lwyfannu'r Genedlaethol eleni, a hynny trwy garedigrwydd y brodyr Idris a William Huw Roberts, perchenogion fferm y Faerdre, Botwnnog.
      Mae'r cae yn Heneb Anrhestredig, oherwydd mai yn y Faerdre yr oedd safle llys a chanolfan weinyddol cwmwd Cymydmaen, yn adeg gweinyddiaeth annibynnol Cymru. Enw'r cae yw Cae'r Brenin, sy'n dynodi'r fan y gwersyllodd Edward y 1af a'i fyddin fuddugoliaethus yn 1283, tra difrodwyd llys Llywelyn i bwysleisio diwedd gweinyddiaeth o dan y cyfreithiau Cymreig, a dechrau rheoli Cymru o dan y weinyddiaeth Seisnig. Weithiau byddaf yn cael fy hun yn holi tybed na fyddai ychydig o ddiplomyddiaeth aeddfed wedi arbed y rhyfel hwn rhwng y Cymry a'r Saeson, rhyfel ciaidd yn ôl y ffynonellau hanesyddol. Wedi'r cyfan roedd Siwan, nain Llywelyn ,yn chwaer i'r brenin John, taid Edward y 1af!
       Ond i ddychwelyd i'r presennol! Mae'r safle hefyd yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac os y cawn ni haul ar ein cefnau dros y tridiau yn Awst, gwn y byddwch wedi eich bendithio!
      Beth bynnag fo'r tywydd, hyderaf y byddwch i gyd yn mwynhau eich hunain yn ein cwmni.

                        A Word from the Vice-chairman.

                                      It is my pleasure to support the Chairman in
                               extending you a warm welcome to the 2008 
                               Welsh National at Llyn, a peninsula protruding 
                               approximately 20 miles out into the Irish Sea, 
                               west of the town of Pwllheli. 
                                     Because of the ever present sea, its
                               influence on our way of life is an old, old story.
                                      The sea also influences our weather,
                               dramatically at times. 
                                       Here, you will come across breath taking
                               views, and on a clear day, one can view the
whole panorama of the western coastline of Wales, from St,Davids in
Pembrokeshire to Holyhead in Anglesey from some
locations. One can see a glimpse of the Irish coastline as well, and according to the traditions of the old generations, a glimpse of Ireland during the winter was a certain sign of severe storms coming our way.
       We have achieved a site of significant historical interest to stage the National this year, through the kindness of brothers Idris and William Huw Roberts, the owners of Faerdre, Botwnnog.
        The field is an Unscheduled Ancient Monument, in recognition of the fact that the court and administrative centre of the commote of Cymydmaen, during the era of Welsh independence. The field is called Cae'r Brenin(The King's Field), identifying the site where Edward the 1st and his conquering army camped in 1283, while the court of Llywelyn was destructed to emphasize the end of jurisdiction under the old Welsh legal system and the beginning of English rule. Sometimes I wonder whether an element of mature diplomacy could have avoided this most barbaric war, according to the historical sources, between the Welsh and English, bearing in mind that Llywelyn's grandmother, Siwan(Joan) was sister to King John, grandfather of Edward the 1st!
However, to return to the present, the site lies within a designated Area of Outstanding Natural Beauty, and if we have the sun on our backs during the three days in August, I know that you will be blessed!
        Whatever the weather brings, I sincerely hope that you will all enjoy yourselves in our company.

                                                                            
                                                                             Morris Evans.